| Cyfarfod â Carwyn Jones |
|
|
|
Ar 29 Tachwedd 2006 cyfarfu Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd Sioe Drwg yn Caws, Euros Lewis, ac un o actorion y sioe, Owen Llywelyn, â’r Gweinidog Materion Gwledig Carwyn Jones i drafod dyfodol y ffatri wag yn Nyffryn Aeron.
Pwysleisiodd cynrychiolwyr Drwg yn y Caws bod gweithred Dairygold wrth gymryd yr arian, a gadael gyda’r peiriannau newydd sbon, yn amlwg yn un anghyfreithlon ac anghyfiawn oedd yn groes i gyfraith Gymreig ac Ewropeaidd. Wrth ateb dywedodd Carwyn Jones fwy nag unwaith y byddai Llywodraeth Cynulliad Cymru’n barod i fynd i’r eithaf i sicrhau bod y grant yn cael ei ad-dalu. Dywedodd hefyd nad oedd unrhyw berygl y byddai’r Cynulliad yn gadael y mater hwn heb ei ddatrys, ac awgrymodd y bydd datganiad swyddogol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o fewn y mis. Bu’r cynrychiolwyr o Felin-fach hefyd yn trafod dyfodol y safle gyda Carwyn Jones, gan gynnig modelau ar gyfer ei ddatblygu er lles y gymuned leol, ac er mwyn hybu busnesau lleol. Roedd y modelau hyn yn cynnwys cynigion pendant, gan gynnwys bod y safle’n cael ei brynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i rentu mewn adrannau llai i fusnesau lleol. Roedd cynnig arall gan y grŵp hefyd yn edrych ar berchnogaeth gydweithredol gan grŵp lleol. Daeth yn amlwg na fedrai Carwyn Jones ymateb i’r gofynion hyn yn gyhoeddus tra bod cyfreitha rhwng Dairygold a’r Cynulliad, ond roedd ganddo ddiddordeb mawr ynddyn nhw fel ffordd bosib o ddatblygu’r safle yn Felin-fach.
|
|||||