Cynnwys

Green color

Ffont mwy  Ffont llai  Maint gwreiddiol  Cynnwys
Cartref
DWY FFATRI, UN GYMUNED

Cyfarfod Agored, Nos Fawrth - Mawrth 20, Theatr Felin-fach - 8.00 o’r gloch. Cynrychiolwyr... AERON VALLEY CHEESE - yr FUW a’r NFU - LLYWODRAETH Y CYNULLIAD - FIRST MILK - LLAETH CYMREIG - CYNGOR SIR CEREDIGION + ELIN JONES A.C – ac YMGYNGHORWYR LLAETH ANNIBYNNOL Dan arweiniad... DYLAN IORWERTH

Adroddiadau o'r cyfarfod: Ffatri Gaws: Cyfarfod Argyfwng | Meeting vows to save cheese plant


Chwefror 26ain, 2007
: Cafwyd ergyd arall i economi bregus canol Ceredigion heddiw wrth i gwmni Lactalis McLelland gyhoeddi y byddan nhw'n cau ymhen y mis. Daw'r newyddion lai na blwyddyn wedi i Dairygold gyhoeddi eu bod yn diswyddo 115 o weithwyr ar eu safle yn Felin-fach. Bydd cau Ffatri Gaws Dyffryn Aeron, ganllath o safle Dairygold House, yn arwain at golli 44 o swyddi. Mwy o wybodaeth o wefan y BBC

Rhybudd arall i Dairygold!
Chwefror 19eg, 2007: cyhoeddodd Carwyn Jones heddiw ei fod wedi yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Cwmni Dairygold i sicrhau eu bod yn ad-dalu grant cyhoeddus o £663,528. Mewn datganiad ar wefan Cynulliad Cymru dywedodd: "Rydyn ni wedi bod yn trafod ers amseroedd maith gyda Chwmni Dairygold i geisio  adennill y grant, ond, yn anffodus, ar sail safbwynt Dairygold mae'n ymddangos mai cymryd camau cyfreithiol yw'r unig opsiwn sy'n agored i ni."   darllen mwy

 
Newyddion diweddaraf
Beth yw ein nod
Ei gwneud yn amhosib i Dairygold i fogi’r safle a’i ddefnyddio fel ased ar eu llyfrau. Os yw hyn yn golygu lansio boicot ar nwyddau Dairygold, dyna beth wnawn ni. Os yw’n golygu brwydro ar eu tir nhw a theithio i Iwerddon i bicedu a phrotestio, dyna beth wnawn ni. Fe fydd ein brwydr yn parhau nes bod safle Ffatri Bacio Caws Dyffryn Aeron, gafodd ei ariannu ag arian cyhoeddus o’n pocedi ni, yn cael ei ddefnyddio unwaith eto i gyflogi pobl.
Cyfarfod â Carwyn Jones
Ar 29 Tachwedd 2006 cyfarfu Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd Sioe Drwg yn Caws, Euros Lewis, ac un o actorion y sioe, Owen Llywelyn, â'r Gweinidog Materion Gwledig Carwyn Jones i drafod dyfodol y ffatri wag yn Nyffryn Aeron.   darllen mwy
carwyn_bawd
Gweithredu yn arwain at newid
Mae protest wnaeth ddilyn Sioe Drwg yn y Caws ar Nos Iau Medi 21 2006 wedi arwain at gyhoeddiad ar Ddydd Llun Medi 25 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Carwyn Jones ei fod yn ystyried erlyn Cwmni Dairygold   darllen mwy
gweithredu_bawd
If you are having difficulty in changing language then click here and try again in the new window that opens, or enable cookies on your browser.