Yn 1826 cerddodd y Capten William Davies Evans o Blwyf Sant Degwel ger Hwlffordd i fewn i Ystafelloedd Gwyddbwyll William Lewis yn St. Martin's Lane, Llundain a chynnig chwarae rhai o chwaraewyr gwyddbwyll cryfa'r dydd. Doedd Evans ddim yn adnabyddus fel chwaraewr gwyddbwyll, ond wedi iddo esbonio pam ei fod am eu chwarae llwyddodd i berswadio A McDonnell i chwarae gêm yn ei erbyn. Roedd McDonnell yn un o'r chwaraewyr gorau gynhyrchodd Iwerddon erioed, ac un o'r cryfaf ym Mhrydain ar y pryd. Gorffennodd y gêm ar yr 20fed symudiad â Chapten Evans yn fuddugol. Dyma ddechrau Gambit Evans sydd wedi cael ei ddefnyddio gan chwaraewyr fel Paul Morphy, Jan Timman, ac yn y 1990'au gan Garry Kasparov, yn fwyaf arbennig mewn buddugoliaeth 25 symudiad yn erbyn Viswanathan Anand ym Mhencampwriaeth Goffa Tal yn Riga, 1995.
(darllen gweddill y cofnod...)