Sad 5 Tach 2005
Croeso!
Categori GweinyddolCroeso i'r lle ar y we i gael gwybodaeth am bopeth ynglyn â gwyddbwyll a gwefan gwyddbwyll.com. Os wyt ti eisiau blogio ar y safle hwn anfon neges breifat drwy gwyddbwyll.com i Owen Llywelyn ac fe gei di enw defnyddiwr a chyfrinair. Mae'n rhaid i ti fod yn aelod o gwyddbwyll.com sy'n chwarae'n rheolaidd ar y safle cyn bod modd i ti gyfrannu fan hyn. Pob lwc - chwarae dy chwarae. Os wyt ti'n bwriadu blogio ar y safle mae'n rhaid i ti ddarllen gweddill y cofnod hwn.
Rhai pethau elfennol i gofio pan yn blogio ar y safle:
Does dim rhaid i ti symud ymhellach na'r dudalen ysgrifennu i gyfrannu. 
Cadw'r cofnod ar y dudalen flaen yn fyr - rhyw 3 llinell ar y mwyaf. Ar ôl teipio 3 llinell teipia'r cˆd canlynol, wedyn caria mlaen i deipio dy gyfraniad:


Ar ˆl teipio dy gyfraniad mae angen ei roi mewn categori. Dad-dicia'r blwch Gweinyddol a thicia un o'r blychau eraill cyn rhoi clec i Cadw ar waelod y dudalen.

Llofnoda dy gyfraniad gyda dy enw mewngofnodi fel hyn!!! Diolch.
Owen Llywelyn