Topalov v Kamsky Rhwng Chwefror 17eg a'r 27ain, 2009 bydd Veselin Topalov (Bwlgaria) yn chwarae Gata Kamsky (ganed yn Rwsia, chwarae dros Unol Daleithiau'r America) yn Sofia, Bwlgaria yn Gêmau Her Gwyddbwyll y Byd 2009. Mae'r her yn cynnwys 8 gêm, ac o bosib gêmau cyflym os fydd hi'n gyfartal, a bydd yr enillydd yn cael yr hawl i herio Viswanathan Anand o India am deitl Pencampwr Gwyddbwyll y Byd.

Mae modd gweld ac astudio'r gêmau ar wefan Gemaugwyddbwyll.com.