Cafwyd drama yn Nhwrnamaint Gwyddbwyll.com 2008 wrth i'r chwaraewyr ddod ynghyd eleni eto i gystadlu am Darian T Llew Jones Gwyddbwyll.com. Kojak aeth â hi mewn cyfres o gêmau gwib wedi i dri chwaraewr rannu triphwynt ar ddiwedd y diwrnod.

Er mai Ruy Lopez ap Sion oedd y ffefryn ar sail graddfa chwarae ar draws y bwrdd, cafwyd cyfres o gêmau agos yn y rowndiau cynnar, a nifer annisgwyl o gêmau cyfartal. Yn un o'r rhain llwyddodd Tomos i ennill 1/2 pwynt drwy roi Kojak mewn Siach Parhaol er ei fod ddau ddarn ar ei hôl hi, ac aeth Tir y Cwmwd ar y blaen yn erbyn Ruy Lopez cyn gorfod rhuthro i symud a cholli'r gêm.

Ond yr hen ben Ruy Lopez oedd y ffefryn ar ddechrau'r rownd olaf, ac roedd angen pwynt arno yn erbyn Llewpart i sicrhau mai ef fyddai'r pencampwr. Yn y gêm gyffrous hon llwyddodd Llewpart i gael methmat mewn diweddglo Brenin a Brenhines v Brenin, a thrwy hynny gorfodwyd y tri ar y brig i chwarae gêmau gwib i ddewis enillydd.

Yn y rhain collodd Tomos i Ruy Lopez ap Sion a Kojak, ac yng ngêm ola'r dydd llwyddodd Kojak i wrthsefyll ymosodiad lletraws grymus ar ei Frenin gan Frenhines ac Esgob Ruy Lopez ap Sion, a chreu ymosodiad ei hun gyda Chastell ar ffeil agored. Yn y diwedd Kojak aeth â hi, a daeth yn bencampwr 2008 ac yn ddeilydd Tarian T Llew Jones Gwyddbwyll.com.

Dyma'r canlyniadau a'r tabl yn llawn (lluniau i ddod):

Rownd 1
Owen Llywelyn
(1/2)
Kojak
(1/2)
Tir y Cwmwd
(0)
Ruy Lopez ap Sion
(1)
Tomos
(1/2)
Llewpart
(1/2)
Bobi (1)

Rownd 2
Ruy Lopez ap Sion
(1)
Bobi
(0)
Owen Llywelyn
(1)
Llewpart
(0)
Tomos
(1/2)
Kojak
(1/2)
Tir y Cwmwd (1)

Rownd 3
Ruy Lopez ap Sion
(1/2)
Owen Llywelyn
(1/2)
Tomos
(1)
Bobi
(0)
Kojak
(1)
Tir y Cwmwd
(0)
Llewpart (1)

Rownd 4
Ruy Lopez ap Sion
(1/2)
Llewpart
(1/2)
Owen Llywelyn
(0)
Tomos
(1)
Bobi
(0)
Tir y Cwmwd
(1)
Kojak (1)

Safle
Pwyntiau
Kojak
3
+ 2
Ruy Lopez ap Sion
3
+ 1
Tomos
3
+ 0
Owen Llywelyn
2
Llewpart
2
Tir y Cwmwd
2
Bobi
1

Owen Llywelyn