Sad 19 Ion 2008
Ar ddydd Gwener, Ionawr 18 daeth y newyddion fod Bobby Fischer, y chwaraewr gwyddbwyll gorau erioed wedi marw yn 64 mlwydd oed.
| Ganwyd Robert James Fischer yn Chicago ar Fawrth 9fed, 1943. Symudodd y teulu i Brooklyn, Efrog Newydd pan oedd yn 6 mlwydd oed, ac yn ystod yr un flwyddyn prynodd ei chwaer set wyddbwyll yn y siop leol, a gyda'i gilydd fe wnaethant ddysgu'r rheolau o'r cyfarwyddiadau yn y bocs.
Yn ei eiriau ef ei hun "I got good" pan oedd yn 11, ac roedd yn bencampwr America yn 14 mlwydd oed, cyn dod yr Uwchfeistr (Grandmaster) ifancaf erioed yn 15 mlwydd oed. |
![]() |
![]() |
Nid oes neb yn hanes y gêm wedi astudio gwyddbwyll mor drylwyr â Bobby Fischer. Dywedai ei fod yn rhoi 98% o'i amser i wyddbwyll tra fod popeth arall yn rhannu y 2% oedd yn weddill. Ar ôl cael ei chwalu gan Boris Spassky mewn gêm Gambit y Brenin fe aeth adref i astudio'r agoriad o bob ongl. Ysgifennodd erthygl A Bust to the King's Gambit ar sut i amddiffyn yn erbyn yr agoriad yma, ac yn dilyn hyn peidiodd pob Uwchfeistr chwarae'r agoriad. |
Un ffaith sy'n dangos yn fwy na dim sut berson oedd Fischer yw'r un ei fod wedi dysgu Rwsieg er mwyn darllen llyfrau meistri Rwsia ar ôl darllen popeth oedd ar gael yn Saesneg ar wyddbwyll.
Agoriadau syml a ddefnyddiau bob tro gan ddechrau bron bob amser gyda e4, ond yng nghanol y gêm byddai'n gallu dinistrio ei wrthwynebwyr gyda symudiadau athrylithgar. Ac os byddai'r gêm yn parhau tan y diwedd nid oedd neb yn deall y diweddglo (endgame) yn well na Bobby Fischer.
![]() |
| Daeth awr fawr Bobby Fischer yn 1972 pan chwaraeodd yn erbyn Boris Spassky o Rwsia am bencampwriaeth y byd yn Reykjavick, Gwlad yr Ia. Ar un ochr roedd Spassky, a oedd fel chwaraewyr Rwsia wedi cael ei hyfforddi gan y meistri ers yn ifanc, ac a oedd â thîm o chwaraewyr gorau Rwsia i'w gynorthwyo, ac ar y llall roedd Bobby Fischer ar ei ben ei hun. Fe wnaeth Fischer chwalu ei wrthwynebydd ac roedd y bachgen o Brooklyn gyda'r set o'r siop leol wedi trechu holl bwer y Sofietiaid. |
Ond o fewn blwyddyn roedd wedi troi ei gefn ar y cyfan ac yn byw fel meudwy. Dywedir fod y ffin rhwng athrylith a gwallgofrwydd yn denau iawn a gwelwyd hyn ym mywyd Fischer. Credai fod pawb yn cynllwynio yn ei erbyn ac roedd er enghraifft yn gwadu fod yr holocaust wedi digwydd. Ar ôl byw yn alltud yn Siapan ac yng Nghwlad yr Ia fe fu farw yn Reykjavick, lleoliad ei awr fawr yn 1972.
Ond mae'n siwr y bydd hanes yn cofio y dyddiau da ac yn cofio Bobby Fischer, y chwaraewr gwyddbwyll rhyfeddol. Ai Bobby Fischer oedd y chwaraewr gwyddbwyll gorau erioed? Cred llawer mai ef oedd y gorau ac mae'n siwr y cofir amdano tra fod gwyddbwyll yn cael ei chwarae.
KOJAK: Ionawr 18, 2008.
"All I want to do, ever, is just play chess." -- Bobby Fischer
Ymateb
Rhaid i ti fewngofnodi os wyt ti eisiau ymateb i'r cofnod.


