Gwe 1 Meh 2007
Daeth tri chwaraewr i'r brig yn Nhwrnament Caerfyrddin 2007, gyda dau o sêr ifanc a sefydlydd gwefan gwyddbwyll.com yn rhannu'r safle gyntaf a THARIAN GWYDDBWYLL.COM T.LLEW JONES. Llewpart, Tomos ac Owen Llywelyn oedd y tri ar y brig gyda thri phwynt yr un o bedwar posib. Roedd yn ddiwrnod anghyffredin oherwydd i ddeuddeg o'r gêmau orffen gyda buddugoliaeth i'r darnau du, pedair yn unig i'r darnau gwyn, a dim un gêm gyfartal. Yn goruchwilio'r cyfan roedd y chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol Iolo Jones sydd wedi cynrychioli Cymru dros 150 o weithiau.
![]() |
| Llewpart, Iolo Jones, Tomos, Owen Llywelyn |
Enillydd y wobr Graddfa oedd Graham, enillodd Gerallt y wobr Chwaraewr Addawol, gydag Adam May yn cipio gwobr y gêmau cyflym drwy guro Tomos yn y rownd derfynnol.
![]() |
| Graham yn ennill y Tlws safle |
![]() |
| Gerallt yn ennill y Tlws Chwaraewr Addawol |
![]() |
| Dafydd Wigley, Iolo Jones a Tir y Cwmwd |
Roedd Dafydd Wigley ymhlith y cystadleuwyr. Mae Dafydd yn aelod selog o wefan gwyddbwyll.com ac wedi chwarae gwyddbwyll dros dîm Ty'r Cyffredin. Trefnwyd y digwyddiad gan Kojak, a threfnwyd yr arwerthiant llyfrau gwyddbwyll gan Daioffsci.
![]() |
| Trefnydd y Twrnament - Kojak |
![]() |
| Daioffsci yn cynnig y Gambit i Kojak! |
| Rownd 1 | |||
| Dafydd |
(0)
|
Owen Llywelyn |
(1)
|
| Tomos |
(0)
|
Llewpart |
(1)
|
| Gerallt |
(0)
|
Kojak |
(1)
|
| Tir y Cwmwd |
(0)
|
Graham |
(1)
|
| Rownd 2 | |||
| Llewpart |
(0)
|
Owen Llywelyn |
(1)
|
| Graham |
(0)
|
Kojak |
(1)
|
| Gerallt |
(1)
|
Tir y Cwmwd |
(0)
|
| Tomos |
(1)
|
Dafydd |
(0)
|
| Rownd 3 | |||
| Kojak |
(0)
|
Owen Llywelyn |
(1)
|
| Graham |
(0)
|
Tomos |
(1)
|
| Llewpart |
(1)
|
Gerallt |
(0)
|
| Dafydd |
(1)
|
Tir y Cwmwd |
(0)
|
| Rownd 4 | |||
| Owen Llywelyn |
(0)
|
Tomos |
(1)
|
| Kojak |
(0)
|
Dafydd |
(1)
|
| Gerallt |
(0)
|
Graham |
(1)
|
| Tir y Cwmwd |
(0)
|
Llewpart |
(1)
|
Ymateb
Rhaid i ti fewngofnodi os wyt ti eisiau ymateb i'r cofnod.





