Sad 17 Chwe 2007
| Mae un o sêr ifanc gwefan gwyddbwyll.com wedi cipio Tlws y Faner Newydd am y chwaraewr mwyaf disglair yn ystod y misoedd diwethaf. Mae Tomos, sy'n 16 mlwydd oed, wedi bod yn chwarae Gwyddbwyll ers ymuno â gwyddbwyll.com rhyw flwyddyn yn ôl. | ![]() |
Dysgodd ei dad y symudiadau elfennol iddo, ac aeth ati i ddatblygu ei gêm drwy ddysgu ei hunan. Erbyn hyn mae'n herio a churo rhai o feistri'r safle, ac mae ei enw i'w weld yn gyson yn y tabl deg uchaf. Mae'n chwaraewr disglair, sy'n chwarae gêm agored a chyffrous, llawn dychymyg a gwreiddioldeb.
Ei ddiddordebau yw pêl-droed, golff a sgïo. Mae hefyd yn hoffi rhedeg ac yn aelod o glwb athletau Aberystwyth. Mae'n byw yng Nghapel Dewi ger Aberystwyth.
Llongyfarchiadau mawr iddo ar ddatblygu'n chwaraewr mor bwerus mewn cyfnod mor fyr. Bydd enw Tomos yn siwr o gael ei weld ymhlith enwau chwaraewyr disglair Cymru yn y dyfodol.
Chwaraewyr eraill i gipio'r tlws yw Sbecspeledrx, Ruy Lopez ap Sion, Y Meistr, Esgobmawr a Seamus.
Owen Llywelyn
