Bydd Pencampwriaeth Wyddbwyll Gyfyngedig Dyfed yn cael ei chynnal yng Ngwesty'r Emlyn, Tanygroes ar Sadwrn a Sul 21ain a'r 22ain o Hydref. Amser dechrau 9.30 y bore.

Mae hon yn ornest 5 rownd, gan gynnwys 3 rownd ar Ddydd Sadwrn a 2 rownd ar Ddydd Sul. Y tâl am chwarae fydd £8 i oedolion a £5 i chwaraewyr dan 18. Bydd yr enillydd yn dal Cwpan Pencampwriaeth Dyfed am flwyddyn. Rhaid i daliadau am chwarae gyrraedd yr Ysgrifennydd erbyn Dydd Iau, 19eg o Hydref. Dylid eu hanfon i:

Iolo Jones, Dolnant, Pontgarreg, Llandysul, Ceredigion SA44 6AR.

Bydd lluniaeth ar gael yn y gwesty.

Gwobrau: 1af £70, 2il £45, 3ydd £20, Gwobr Ieuenctid £10, Gwobr Gradd (dan 1600) £10

Owen Llywelyn