 |
Mae'n ddadl sy'n swnio mwy fel ymgais i uno dau felt bocsio na dau deitl gwyddbwyll - Pencampwr Gwyddbwyll y Byd FIDE Veselin Topalov yn dweud nad yw'n bwriadu iselhau ei hun drwy chwarae Pencampwr Gwyddbwyll Clasurol y Byd, Vladimir Kramnik. |
Yn ôl Topalov mae'n chwerthinllyd bod Kramnik, sydd 60 pwynt yn is nag ef ac yn seithfed yn y byd yn meiddio ei herio. Dywedodd bod gwahaniaeth o 60 pwynt ELO mewn gwirionedd yn golygu gwahaniaeth safon enfawr mewn gwyddbwyll. "Petai rhywun sydd 60 pwynt yn is nag ef yn ei herio byddai Kramnik yn chwerthin am eu pennau".
Mae'r chwaraewr gwyddbwyll gorau erioed
Gary Kasparov yn dueddol o gytuno â Topalov: "Crewyd rhwyg mewn gwyddbwyll gan nad oedd y chwaraewr cryfaf yn Bencampwr y Byd. Does dim rhwyg bellach. Does gan Kramnik ddim hawl i'w herio am y teitl". Mae'n werth cofio efallai bod Kasparov yn son am ei hun fan hyn, ac mae Kramnik gipiodd y teitl oddi arno!
Er gwaetha'r cynnig o $1.4 miliwn i'r enillydd, ac o leia $800,000 yr un beth bynnag y canlyniad, dyw Topalov ddim am gynnig gêm am y teitl i Kramnik, a nododd bod chwaraewyr heblaw Kramnik â llawer mwy o hawl i'w herio. "Mae wedi colli ei hawl i fy herio gan nad yw'n chwarae gwyddbwyll yn ddigon da".
Graddfeydd ELO
Owen Llywelyn