Os wyt ti am wella dy wyddbwyll mae'n werth astudio gêmau chwaraewyr eraill, yn enwedig os ydyn nhw'n cynnig sylwadau ar y gêm. Byddwn yn cyhoeddi gêmau gyda sylwadau yn rheolaidd ar blogwyddbwyll, gan ddechrau gyda gêm Ruy Lopez ap Sion v Adam May yn Nhwrnament Caerfyrddin gwyddbwyll.com 2006.
(darllen gweddill y cofnod...)
Gorffennaf 2006
Monthly Archive
Gwe 28 Gor 2006
Maw 25 Gor 2006
| Tra bod y rhan fwyaf o Gymry'n troi eu golygon at Sesiwn Fawr Dolgellau daeth criw o aelodau gwefan gwyddbwyll.com ynghyd yng Nghaerfyrddin Ddydd Sadwrn i gystadlu am DARIAN GWYDDBWYLL.COM T.LLEW JONES. Yn fuddugol heb golli'r un o'i bedair gêm roedd Adam May, un o chwaraewyr gwyddbwyll dros y bwrdd cryfaf De Cymru, ac aelod o'r wefan ers y dyddiau cynnar. Mae Adam yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd ac yn defnyddio gwyddbwyll.com i'w helpu i wneud hynny. Bydd yn cadw'r darian am flwyddyn a gobeithio y bydd yn dod i'w hamddiffyn y flwyddyn nesaf! Yn goruchwilio'r cyfan roedd y chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol Iolo Jones sydd wedi cynrychioli Cymru dros 150 o weithiau. | ![]() |
|
Adam May
|
(darllen gweddill y cofnod...)
