Ionawr 2006


Mae gwyddbwyll.com dy angen di. A wyt ti yn gallu rhoi posteri lan i hysbysebu gwyddbwyll.com yn dy ardal di e.e. yn y gwaith, yn yr ysgol, yn y pentref ac yn y blaen. Os wyt ti'n gallu cynorthwyo anfon neges breifat i Kojak gan nodi dy gyfeiriad llawn a'r nifer o bosteri yr hoffet dderbyn.

"...gall pum chwaraewr pêl-droed ei chael yn anodd i sgorio yn erbyn pedwar, ond mae'n llawer haws sgorio pan fydd dau yn chwarae yn erbyn un."

Mae'r Uwchfeistri gwyddbwyll yn pwysleisio'n gyson ei bod yn werth cyfnewid darnau gwyddbwyll os wyt ti wedi llwyddo i ennill darn mewn gêm. Dyma enghraifft: rwyt ti wedi llwyddo i gipio esgob dy wrthwynebydd ond heb golli darn dy hun. Eu dadl yw y dylet ymdrechu nawr i gyfnewid darnau gyda dy wrthwynebydd. Ydi hyn yn gywir, a pham ei fod yn iawn i wneud hyn? Ydi yw'r ateb, a dyma esbonio pam...

(darllen gweddill y cofnod...)

Os wyt ti eisiau arbrofi gydag agoriad gwahanol i'r agoriadau canol symetrig 1. e4 e5 2. Mf3 Mc6, mae modd i ti ddefnyddio'r Agoriad Seisnig sy'n cychwyn gyda 1. c4. Datblygwyd yr agoriad gan bobl fel Howard Staunton, ac yn yr agoriad hwn mae Gwyn yn osgoi neu'n oedi datblygu canol y bwrdd gyda'i werinwyr. Ar ôl chwarae 1. c4 gall y gêm ddatblygu mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Edrych ar yr enghraifft hon (gyda nodiant Cymraeg) o gêm rhwng dau o Uwchfeistri pennaf yr Ugeinfed Ganrif, Petrosian a Botvinnik.

Pwerir blogwyddbwyll gan WordPress
Cofnodion (RSS) a Sylwadau (RSS).
Cysylltu: gwyddbwyll(at)dyffrynaeron.org