Rhagfyr 2005


Wedi darganfod tegan newydd i arddangos gêmau gwyddbwyll ar y safle hon. Mae'n eithaf arbennig am fod modd cyfieithu'r nodiant i'r Gymraeg, a diolch i Dafydd a Maes-e rwy wedi llwyddo i dwrio i grombil y rhaglennig i gyfieithu'r wybodaeth hawlfraint. Wedi llwytho Gambit Evans iddo y tro hwn, ond bydd modd ei ddefnyddio yn y dyfodol i ddysgu agoriadau eraill i chwaraewyr newydd. Mae'n broses eithaf hir i lwytho'r gêmau, ond os oes gan rywun agoriad neu gyngor, anfon nhw ataf ac fe roia i nhw lan fan hyn cyn gynted ag y galla i. Rho glec fan hyn i weld hwn ar waith. Bydd yn cymryd rhai eiliadau i lwytho. Rhaid bod dy borwr yn gallu defnyddio Java.

Owen Llywelyn

Mae'r gwyddelod a'r Saeson wedi ymladd eu rhyfeloedd cartref, ond rydym ni'r Cymry yn llawer rhy gwar i dywallt gwaed. Eto mae angen cadw hwntw's yn eu lle ac felly fydd rhaid fynd ati i drefnu gornest fawr - Y De vs Y Gogledd, dros 5 bwrdd gwyddbwyll. (darllen gweddill y cofnod...)

Yn 1826 cerddodd y Capten William Davies Evans o Blwyf Sant Degwel ger Hwlffordd i fewn i Ystafelloedd Gwyddbwyll William Lewis yn St. Martin's Lane, Llundain a chynnig chwarae rhai o chwaraewyr gwyddbwyll cryfa'r dydd. Doedd Evans ddim yn adnabyddus fel chwaraewr gwyddbwyll, ond wedi iddo esbonio pam ei fod am eu chwarae llwyddodd i berswadio A McDonnell i chwarae gêm yn ei erbyn. Roedd McDonnell yn un o'r chwaraewyr gorau gynhyrchodd Iwerddon erioed, ac un o'r cryfaf ym Mhrydain ar y pryd. Gorffennodd y gêm ar yr 20fed symudiad â Chapten Evans yn fuddugol. Dyma ddechrau Gambit Evans sydd wedi cael ei ddefnyddio gan chwaraewyr fel Paul Morphy, Jan Timman, ac yn y 1990'au gan Garry Kasparov, yn fwyaf arbennig mewn buddugoliaeth 25 symudiad yn erbyn Viswanathan Anand ym Mhencampwriaeth Goffa Tal yn Riga, 1995.

(darllen gweddill y cofnod...)

Os wyt ti'n mewngofnodi i gwyddbwyll.com ar adeg twp fel 3 y bore mae'n bosib na fydd gwrthwynebydd i ti ei herio - felly beth am brofi dy hun yn erbyn y gwrthwynebydd cyfrifiadurol yma. Mae'n diddorol gweld meddyliau'r cyfrifiadur - ond mae'n debyg y bydd rhaid i ti rhoi bwrdd iawn i fyny gyferbyn â'r cyfrifiadur - mae'r darnau ychydig bach yn haniaethol . Dyn yn erbyn Cyfrifiadur - fel Kasparov vs Deep Blue ym 1997!

(darllen gweddill y cofnod...)

Pos bach sy'n gwneud i ti feddwl ymhellach na'r symudiad nesaf yn unig. Gwyn sydd i symud. Rwyt ti werinwr ar ei hôl hi ond mae gen ti farchog cryf ar d5. Byddai gen ti gyfle da i gael gêm gyfatral o lwyddo i gyfnewid dy ddau gastell a dy frenhines. Serch hynny mae'r cestyll du yn gryf ar ffeil b ac yn bygwth ymosod ar b3.

Os wyt ti'n teimlo fel chwarae'n amddiffynnol fe allet ti symud dy gastell ymlaen, Ca3. Ond beth am Cb2 fel ateb i hyn? Os wyt ti'n teimlo fel ymosod gallet ti symud dy gastell o ffeil d i a1, Cda1 i fygwth Ca6. Ond os wyt ti'n meddwl yn glir mae gen ti gwell symudiad o lawer. Cofia gyngor Lasker: "Pan weli di symudiad da, meddylia, a chwilia am un gwell!"

(darllen gweddill y cofnod...)

brenin gwyddbwyll.com 2005 Sbecspeledrx yw pencampwr cyntaf gwyddbwyll.com y Faner Newydd wedi iddo fod yn frenin y safle am y rhan fwyaf o 2005. Mae Sbecs yn ennill tlws y Faner Newydd a'r anrhydedd o fod yn bencampwr cynta'r safle.

Ers sefydlu gwyddbwyll.com ddiwedd Medi 2005 mae Sbecs wedi bod ar y brig yn gyson, ac wedi cyfrannu'n helaeth at ddatblygiad y safle drwy ei hyrwyddo, cynorthwyo gyda'r gweinyddu, a chynnig newidiadau a gwelliannau.
(darllen gweddill y cofnod...)

    Pwy i chwarae yn ei erbyn

  • Chwarae yn erbyn pobl sy' ychydig bach yn well na ti.
  • Paid a chwarae y meistri ar y brig neu fe golli di bob tro a digalonni.
    Profiad

  • Chwarae gymaint o gemau fedri di ond dwyt ti ddim yn mynd i ddysgu dim os nad wyt ti'n meddwl ac yn copio arferion da y goreuon ac yn dysgu oddi wrth dy gymeriadau.
    Defnyddio Dadansoddi gêm

  • Defnyddia'r Dadansoddi gêm sydd ar y dudalen chwarae. Fe fedri di ddadansoddi beth sy wedi mynd o'i le ar ôl i ti golli. Os na wnei di hyn fe fyddi di'n gwneud yr un camgymeriadau dro ar ôl tro.
  • Fe fedri di hefyd glicio i Pob gêm a dewis gêm sy' mlaen gan y meistri ar y brig a dilyn y gêm i ti gael gweld pa agoriadau a symudiadau maen nhw'n eu defnyddio.
  • Os wyt ti'n gyfrwys, cyn i ti dderbyn sialens, fe fyddi di'n dadansoddi gêmau'r person rwyt ti'n mynd i chwarae yn ei erbyn er mwyn gwybod ei hoff dactegau.
    Dy radd

  • Paid gofidio am dy raddfa. Mae chwarae chwaraewyr gwan yn rhoi graddfa dda i ti ond yn dy dwyllo di o beth yw dy allu!
    Llyfrau, DVD, Fideo a'r We

  • Mae modd prynu llyfrau a fideo/dvd sy'n rhoi cyngor a syniadau i ti. Cer i www.chess.co.uk.
  • Mae llawer iawn o ddeunydd ar y we, hyd yn oed gemau y medri di eu hailchwarae, megis Morphy's best moves (Morphy nid Murphy!) ar chessgames.com.
  • Dyma enwau rhai llyfrau: Improve your chess now - Jonathan Tisdall; How to Improve Your Chess - Israel Horowitz; Test Your Positional Play - Bellin a Ponsianni; Llyfrau John Nunn

Codwyd o'r we gan daioffsci.
(darllen gweddill y cofnod...)

Wedi ffeindio y strip comic yma ar y Perry Bible Fellowship. Gwefan llawn strips comic. Ar ôl chwilio o gwmpas, daeth hwn i'r golwg. Eitha da o ni yn meddwl...

Y Ffordd hawdda i guro

Tarwch ar y llun i weld y llun cyfa

Pwerir blogwyddbwyll gan WordPress
Cofnodion (RSS) a Sylwadau (RSS).
Cysylltu: gwyddbwyll(at)dyffrynaeron.org