Croeso i'r lle ar y we i gael gwybodaeth am bopeth ynglyn â gwyddbwyll a gwefan gwyddbwyll.com. Os wyt ti eisiau blogio ar y safle hwn anfon neges breifat drwy gwyddbwyll.com i Owen Llywelyn ac fe gei di enw defnyddiwr a chyfrinair. (darllen gweddill y cofnod...)
Tachwedd 2005
Sad 5 Tach 2005
Croeso!
Categori GweinyddolMer 23 Tach 2005
Dreigiau Treffynnon 3.5 - 1.5 Y Rhyl
Daeth buddugoliaeth cynta'r Dreigiau heno yn erbyn tim Y Rhyl. Dyma'r tro cyntaf i'r Dreigiau llwyddo i gael eu tîm gorau allan ac er fo'r Rhyl wedi dioddef efo chwaraewyr yn tynnu allan funud olaf, roedd hwn yn fuddugoliaeth campus yn erbyn un o'r ffefrynnau am ddyrchafiad.
![]()
(darllen gweddill y cofnod...)
Sad 19 Tach 2005
![]() |
Mae'n ddadl sy'n swnio mwy fel ymgais i uno dau felt bocsio na dau deitl gwyddbwyll - Pencampwr Gwyddbwyll y Byd FIDE Veselin Topalov yn dweud nad yw'n bwriadu iselhau ei hun drwy chwarae Pencampwr Gwyddbwyll Clasurol y Byd, Vladimir Kramnik. |
Iau 17 Tach 2005
Wel gobeithio y nawn nhw - gall pethau ddim gwaethygu ar ol i'r clwb fethu a codi tîm i chwarae Caer yr wythnos yma a felly ildio'r gem 0-5! Ond fydd ein tîm cryfaf yn chwarae Dydd Mercher nesaf (23/11/05) wrth i ni herio'r Rhyl. Dyma fydd y tro cyntaf i'r clwb fedru rhoi eu 5 chwarewr cryfaf allan ar gyfer yr un gem - felly mae disgwyl mawr i ni enill ein buddugoliaeth cyntaf.
(darllen gweddill y cofnod...)
Sul 13 Tach 2005
![]() |
Wedi dod o fewn trwch blewyn i guro Rwsia a chipio Pencampwriaeth Timau Gwledydd y Byd, collodd Tsieina gêmau pwysig ar y diwrnod olaf yn Beer Sheba, Israel ar 11 Tachwedd 2005, a gorffen y twrnament ar 21.5 pwynt, hanner pwynt y tu ôl i Rwsia. Er nad oedd neb yn disgwyl iddyn nhw wneud yn dda bu Tsieina'n arwain y twrnament tan y diwrnod olaf pan ddaethon nhw wyneb yn wyneb â Rwsia. |
(darllen gweddill y cofnod...)
Sul 13 Tach 2005

I dderbyn sticer car gwyddbwyll.com yn rhad ac am ddim anfon dy gyfeiriad i gwyddbwyll(at)dyffrynaeron(dot)org. Mae'r sticeri wedi cael eu rhoi i ni am ddim drwy garedigrwydd un o ddefnyddwyr y safle.
Sul 6 Tach 2005
Twrnament
Categori Dwed dy ddweudGolygwyd y neges wreiddiol ar Nos Sul 6 Tachwedd:
Penderfynwyd mai gêm ddyfarnu (neu playoff) yw'r ffordd decaf o ddyfarnu pwy sy'n ennill twrnament neu grwp o fewn twrnament. Gyda Phencampwriaeth gwyddbwyll.com yn cyrraedd diwedd yr adran grwpiau dyma sut mae'n sefyll: (darllen gweddill y cofnod...)
Sul 6 Tach 2005
Веселин Топалов (Veselin Topalov) o Fwlgaria yw pencampwr gwyddbwyll y byd wedi iddo ennill Pencampwriaeth Gwyddbwyll FIDE yn yr Ariannin ym Mis Hydref 2005. Roedd y fuddugoliaeth yn gryn sioc i rai, er bod Kasparov wedi rhagweld mai Topalov fyddai'n cipio'r teitl ar ôl dadansoddi rhai o'i gêmau diweddar a chwarae yn ei erbyn. (darllen gweddill y cofnod...)
Sad 5 Tach 2005
Mae cylchgrawn y Faner Newydd wedi cynnig gwobr bob tri mis i'r person sy'n frenin gwyddbwyll.com am yr adeg hiraf yn ystod y cyfnod hwnnw. Bydd enillydd cyntaf y wobr yn cael ei gyhoeddi yn rhifyn nesaf y Faner Newydd sy'n mynd i'r wasg ar Dachwedd 13eg. (darllen gweddill y cofnod...)
Sad 5 Tach 2005
Mae Gary Kasparov, o bosib y chwaraewr gwyddbwyll gorau erioed, wedi rhoi'r gorau i chwarae gwyddbwyll i ganolbwytio ar y frwydr yn erbyn y "ffasgydd" Vladimir Putin. Mae hwn yn gam dewr a pheryglus i'r cyn-bencampwr byd gan bod llawer o bobl sydd wedi gwrthwynebu Putin yn y gorffennol (darllen gweddill y cofnod...)

