Newyddion Gwyddbwyll


Topalov v Kamsky Rhwng Chwefror 17eg a'r 27ain, 2009 bydd Veselin Topalov (Bwlgaria) yn chwarae Gata Kamsky (ganed yn Rwsia, chwarae dros Unol Daleithiau'r America) yn Sofia, Bwlgaria yn Gêmau Her Gwyddbwyll y Byd 2009. Mae'r her yn cynnwys 8 gêm, ac o bosib gêmau cyflym os fydd hi'n gyfartal, a bydd yr enillydd yn cael yr hawl i herio Viswanathan Anand o India am deitl Pencampwr Gwyddbwyll y Byd.

Mae modd gweld ac astudio'r gêmau ar wefan Gemaugwyddbwyll.com.

Twrnament Caerfyrddin 2008
Twrnament Caerfyrddin 2008
(darllen gweddill y cofnod...)

Cafwyd drama yn Nhwrnamaint Gwyddbwyll.com 2008 wrth i'r chwaraewyr ddod ynghyd eleni eto i gystadlu am Darian T Llew Jones Gwyddbwyll.com. Kojak aeth â hi mewn cyfres o gêmau gwib wedi i dri chwaraewr rannu triphwynt ar ddiwedd y diwrnod. (darllen gweddill y cofnod...)

Ar ddydd Gwener, Ionawr 18 daeth y newyddion fod Bobby Fischer, y chwaraewr gwyddbwyll gorau erioed wedi marw yn 64 mlwydd oed.

Ganwyd Robert James Fischer yn Chicago ar Fawrth 9fed, 1943. Symudodd y teulu i Brooklyn, Efrog Newydd pan oedd yn 6 mlwydd oed, ac yn ystod yr un flwyddyn prynodd ei chwaer set wyddbwyll yn y siop leol, a gyda'i gilydd fe wnaethant ddysgu'r rheolau o'r cyfarwyddiadau yn y bocs.

Yn ei eiriau ef ei hun "I got good" pan oedd yn 11, ac roedd yn bencampwr America yn 14 mlwydd oed, cyn dod yr Uwchfeistr (Grandmaster) ifancaf erioed yn 15 mlwydd oed.

Bobby Fischer yn 15 oed

(darllen gweddill y cofnod...)

Daeth tri chwaraewr i'r brig yn Nhwrnament Caerfyrddin 2007, gyda dau o sêr ifanc a sefydlydd gwefan gwyddbwyll.com yn rhannu'r safle gyntaf a THARIAN GWYDDBWYLL.COM T.LLEW JONES. Llewpart, Tomos ac Owen Llywelyn oedd y tri ar y brig gyda thri phwynt yr un o bedwar posib. Roedd yn ddiwrnod anghyffredin oherwydd i ddeuddeg o'r gêmau orffen gyda buddugoliaeth i'r darnau du, pedair yn unig i'r darnau gwyn, a dim un gêm gyfartal. Yn goruchwilio'r cyfan roedd y chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol Iolo Jones sydd wedi cynrychioli Cymru dros 150 o weithiau. (darllen gweddill y cofnod...)

Mae un o sêr ifanc gwefan gwyddbwyll.com wedi cipio Tlws y Faner Newydd am y chwaraewr mwyaf disglair yn ystod y misoedd diwethaf. Mae Tomos, sy'n 16 mlwydd oed, wedi bod yn chwarae Gwyddbwyll ers ymuno â gwyddbwyll.com rhyw flwyddyn yn ôl. Tomos

(darllen gweddill y cofnod...)

Mae'r gêm hir ddisgwyliedig i uno dau deitl gwyddbwyll y byd rhwng Pencampwr Gwyddbwyll y Byd FIDE, Vaselin Topalov, a Phencampwr Gwyddbwyll Clasurol y Byd, Vladimir Kramnik wedi dechrau o'r diwedd.

Mae hyn er gwaethu'r ffaith i Topalov daeru nad oedd Kramnik yn haeddu ei chwarae beth amser yn ôl. Mae mwy o fanylion i ddod ar blogwyddbwyll. Yn y cyfamser gellir cael mwy o wybodaeth ar wefan worldchess2006 neu gwefan chessgames.

Gêmau Pencampwriaeth 2006 gyda nodiant Cymraeg: Rownd 1

KOJAK

Bydd Pencampwriaeth Wyddbwyll Gyfyngedig Dyfed yn cael ei chynnal yng Ngwesty'r Emlyn, Tanygroes ar Sadwrn a Sul 21ain a'r 22ain o Hydref. Amser dechrau 9.30 y bore. (darllen gweddill y cofnod...)

Tra bod y rhan fwyaf o Gymry'n troi eu golygon at Sesiwn Fawr Dolgellau daeth criw o aelodau gwefan gwyddbwyll.com ynghyd yng Nghaerfyrddin Ddydd Sadwrn i gystadlu am DARIAN GWYDDBWYLL.COM T.LLEW JONES. Yn fuddugol heb golli'r un o'i bedair gêm roedd Adam May, un o chwaraewyr gwyddbwyll dros y bwrdd cryfaf De Cymru, ac aelod o'r wefan ers y dyddiau cynnar. Mae Adam yn dysgu Cymraeg ar hyn o bryd ac yn defnyddio gwyddbwyll.com i'w helpu i wneud hynny. Bydd yn cadw'r darian am flwyddyn a gobeithio y bydd yn dod i'w hamddiffyn y flwyddyn nesaf! Yn goruchwilio'r cyfan roedd y chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol Iolo Jones sydd wedi cynrychioli Cymru dros 150 o weithiau.
Adam May

(darllen gweddill y cofnod...)

Mae'r gwyddelod a'r Saeson wedi ymladd eu rhyfeloedd cartref, ond rydym ni'r Cymry yn llawer rhy gwar i dywallt gwaed. Eto mae angen cadw hwntw's yn eu lle ac felly fydd rhaid fynd ati i drefnu gornest fawr - Y De vs Y Gogledd, dros 5 bwrdd gwyddbwyll. (darllen gweddill y cofnod...)

Next Page »

Pwerir blogwyddbwyll gan WordPress
Cofnodion (RSS) a Sylwadau (RSS).
Cysylltu: gwyddbwyll(at)dyffrynaeron.org