Datblygu gwyddbwyll.com


Bu Sioni Size a Sbecspeledrx yn cynrychioli gwefan gwyddbwyll.com yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006 trwy gynnig cyfle i Eisteddfodwyr eu herio ar y Maes. Trefnwyd tair sesiwn ddwy awr yr un gyda gwahoddiad agored i unrhyw un eu chwarae ac ennill £5 os fedren nhw eu curo.
(darllen gweddill y cofnod...)

Mae gwyddbwyll.com dy angen di. A wyt ti yn gallu rhoi posteri lan i hysbysebu gwyddbwyll.com yn dy ardal di e.e. yn y gwaith, yn yr ysgol, yn y pentref ac yn y blaen. Os wyt ti'n gallu cynorthwyo anfon neges breifat i Kojak gan nodi dy gyfeiriad llawn a'r nifer o bosteri yr hoffet dderbyn.

Mae cylchgrawn y Faner Newydd wedi cynnig gwobr bob tri mis i'r person sy'n frenin gwyddbwyll.com am yr adeg hiraf yn ystod y cyfnod hwnnw. Bydd enillydd cyntaf y wobr yn cael ei gyhoeddi yn rhifyn nesaf y Faner Newydd sy'n mynd i'r wasg ar Dachwedd 13eg. (darllen gweddill y cofnod...)

meddalwedd côd agored compwebchess Mae gwyddbwyll.com yn defnyddio cyfieithiad Cymraeg o feddalwedd côd agored Compwebchess o wefan Sourceforge.
(darllen gweddill y cofnod...)

Dyma sydd wedi digwydd hyd yn hyn i ddatblygu'r safle:

Pwerir blogwyddbwyll gan WordPress
Cofnodion (RSS) a Sylwadau (RSS).
Cysylltu: gwyddbwyll(at)dyffrynaeron.org