Croeso i'r lle ar y we i gael gwybodaeth am bopeth ynglyn â gwyddbwyll a gwefan gwyddbwyll.com. Os wyt ti eisiau blogio ar y safle hwn anfon neges breifat drwy gwyddbwyll.com i Owen Llywelyn ac fe gei di enw defnyddiwr a chyfrinair. (darllen gweddill y cofnod...)

Mae'r pin yn un o'r arfau mwyaf pwerus sydd gan chwaraewr Gwyddbwyll. Sut mae gwyn yn ei ddefnyddio i ennill darn yn y pos hwn? Gwyn i symud. Rho glec i darllen gweddill y cofnod am yr ateb.

Y Pin Gwyddbwyll
(darllen gweddill y cofnod...)

Unwaith i ti ddechrau chwarae gwyddbwyll o ddifri mae'n werth dechrau cadw cofnod o dy gêmau er mwyn eu hastudio wedyn. Mae pob chwaraewr gwerth ei halen yn gwneud hyn, ac mae nifer o aelodau Tîm Gwyddbwyll Cymru yn cofnodi neu sgorio eu gêmau drwy ddefnyddio nodiant Cymraeg. (darllen gweddill y cofnod...)

Twrnament Caerfyrddin 2008
Twrnament Caerfyrddin 2008
(darllen gweddill y cofnod...)

Cafwyd drama yn Nhwrnamaint Gwyddbwyll.com 2008 wrth i'r chwaraewyr ddod ynghyd eleni eto i gystadlu am Darian T Llew Jones Gwyddbwyll.com. Kojak aeth â hi mewn cyfres o gêmau gwib wedi i dri chwaraewr rannu triphwynt ar ddiwedd y diwrnod. (darllen gweddill y cofnod...)

Ar ddydd Gwener, Ionawr 18 daeth y newyddion fod Bobby Fischer, y chwaraewr gwyddbwyll gorau erioed wedi marw yn 64 mlwydd oed.

Ganwyd Robert James Fischer yn Chicago ar Fawrth 9fed, 1943. Symudodd y teulu i Brooklyn, Efrog Newydd pan oedd yn 6 mlwydd oed, ac yn ystod yr un flwyddyn prynodd ei chwaer set wyddbwyll yn y siop leol, a gyda'i gilydd fe wnaethant ddysgu'r rheolau o'r cyfarwyddiadau yn y bocs.

Yn ei eiriau ef ei hun "I got good" pan oedd yn 11, ac roedd yn bencampwr America yn 14 mlwydd oed, cyn dod yr Uwchfeistr (Grandmaster) ifancaf erioed yn 15 mlwydd oed.

Bobby Fischer yn 15 oed

(darllen gweddill y cofnod...)

Daeth tri chwaraewr i'r brig yn Nhwrnament Caerfyrddin 2007, gyda dau o sêr ifanc a sefydlydd gwefan gwyddbwyll.com yn rhannu'r safle gyntaf a THARIAN GWYDDBWYLL.COM T.LLEW JONES. Llewpart, Tomos ac Owen Llywelyn oedd y tri ar y brig gyda thri phwynt yr un o bedwar posib. Roedd yn ddiwrnod anghyffredin oherwydd i ddeuddeg o'r gêmau orffen gyda buddugoliaeth i'r darnau du, pedair yn unig i'r darnau gwyn, a dim un gêm gyfartal. Yn goruchwilio'r cyfan roedd y chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol Iolo Jones sydd wedi cynrychioli Cymru dros 150 o weithiau. (darllen gweddill y cofnod...)

Mae un o sêr ifanc gwefan gwyddbwyll.com wedi cipio Tlws y Faner Newydd am y chwaraewr mwyaf disglair yn ystod y misoedd diwethaf. Mae Tomos, sy'n 16 mlwydd oed, wedi bod yn chwarae Gwyddbwyll ers ymuno â gwyddbwyll.com rhyw flwyddyn yn ôl. Tomos

(darllen gweddill y cofnod...)

Mae'r gêm hir ddisgwyliedig i uno dau deitl gwyddbwyll y byd rhwng Pencampwr Gwyddbwyll y Byd FIDE, Vaselin Topalov, a Phencampwr Gwyddbwyll Clasurol y Byd, Vladimir Kramnik wedi dechrau o'r diwedd.

Mae hyn er gwaethu'r ffaith i Topalov daeru nad oedd Kramnik yn haeddu ei chwarae beth amser yn ôl. Mae mwy o fanylion i ddod ar blogwyddbwyll. Yn y cyfamser gellir cael mwy o wybodaeth ar wefan worldchess2006 neu gwefan chessgames.

Gêmau Pencampwriaeth 2006 gyda nodiant Cymraeg: Rownd 1

KOJAK

Bydd Pencampwriaeth Wyddbwyll Gyfyngedig Dyfed yn cael ei chynnal yng Ngwesty'r Emlyn, Tanygroes ar Sadwrn a Sul 21ain a'r 22ain o Hydref. Amser dechrau 9.30 y bore. (darllen gweddill y cofnod...)

Next Page »

Pwerir blogwyddbwyll gan WordPress
Cofnodion (RSS) a Sylwadau (RSS).
Cysylltu: gwyddbwyll(at)dyffrynaeron.org